P-05-893 Achub Ein Parciau yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Crispian Huggill, ar ôl casglu cyfanswm o 244 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae parciau a mannau chwarae yn mynd yn adfail, neu maent dan fygythiad o gael gwaith adeiladu arnynt neu gael eu gwerthu i ddatblygwyr.
Mae hyn er gwaethaf y manteision iechyd a chymdeithasol hanfodol a gynigir gan y mannau gwyrdd hyn, sydd mor agos at ein calonnau.
Diben y ddeiseb hon yw ysgogi cefnogaeth i achub ein parciau, ein meysydd chwarae a'n mannau agored rhag cael eu colli am byth, i ddiwallu anghenion cenedlaethau heddiw a chenedlaethau'r dyfodol ac ategu'r rhwymedigaethau sydd ar gynghorau yng Nghymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 a Deddf yr Amgylchedd 2016.
Rydym eisiau:
1) Gofyniad statudol i gynghorau neilltuo cyllid o £30 yr aelwyd y flwyddyn ar gyfer parciau.
2) Gweld dyletswydd gyfreithiol i bob man gwyrdd gael ei reoli i safon dda.
3) Rheolau newydd yn gwahardd gwaith datblygu ar barcdiroedd, gwerthu parcdiroedd neu ddefnyddio parcdiroedd yn amhriodol.
4) Cronfa newydd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth brys i'r parciau sy'n wynebu'r perygl mwyaf a sicrhau dyfodol mannau gwyrdd agored Cymru yn yr hirdymor.
5) Gofyniad cyfreithiol i bob cyngor weithredu Strategaeth Mannau Agored yn unol â Safonau Meysydd Chwarae Cymru, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, a Deddf yr Amgylchedd 2016, ac iddynt weithio gyda Meysydd Chwarae Cymru i ddiogelu a gwella'r holl fannau gwyrdd agored cyhoeddus yng Nghymru.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
· Gŵyr
· Gorllewin De Cymru